PDA

View Full Version : Morglawdd Yr Afon Hafren



Treffie
01-28-2009, 02:00 AM
Mae Ysgrifennydd Ynni San Steffan, Ed Milliband, wedi cyhoeddi rhestr fer o bump o gynlluniau allai gynhyrchu trydan yn Afon Hafren.

Un ohonyn nhw yw creu morglawdd a allai estyn o Drwyn Larnog ger Sili ym Mro Morgannwg i Bwynt Brean ger Weston-Super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Gallai hyn gynhyrchu hyd at 5% o drydan gwledydd Prydain.

Cynllun arall yw morglawdd Shoots, cynllun yn uwch i fyny'r afon allai gynhyrchu tua 1GW o drydan sy'n cyfateb i safle tanwydd ffosil mawr.

Cynllun llai yw morglawdd Beachley, uwchen Afon Gwy, allai gynhyrchu 625MW.

Mae morlyn Bae Bridgwater ar y rhestr, cynnig fyddai'n cronni rhan o'r aber ar yr arfordir i'r dwyrain o Bwynt Hinkley a Weston-Super-Mare, allai gynhyrchu 1.36GW.

Ac yn olaf, mae morlyn Fleming, cynllun tebyg fyddai'n creu'r un maint o bŵer o ran o arfordir Cymru rhwng Casnewydd a chroesfannau ffordd Afon Hafren.

'Chwyldro'

Dywedodd Morgan Parry, pennaeth WWF Cymru: "Mae WWF yn credu bod chwyldro yn ein systemau ynni'n hanfodol er mwyn i ni ymdrin â heriau'r newid yn yr hinsawdd a diogelwch ynni.

"Mae WWF yn falch bod morlynnoedd yn cael eu hystyried fel dewisiadau ar wahân i'r morglawdd mawr.

"Fodd bynnag, wrth beidio â chynnwys syniadau eraill mwy arloesol ar y rhestr fer, mae'n bosibl bod y llywodraeth yn peryglu ei gallu i ganfod yr ateb mwyaf cynaliadwy.

"Rydym yn annog y cyhoedd i roi ystyriaeth ddifrifol i'r dewisiadau eraill fel cynigion Ffensys Llanw a Ffrydiau Llanw a'r llywodraeth i fuddsoddi amser ac arian i ddod â nhw i stad lle maen nhw'n barod iawn i gael eu defnyddio."

Cynlluniau llai

Mae arbenigwyr yn credu bod modd cynhyrchu hyd at 7% o drydan gwledydd Prydain drwy godi morglawdd fyddai'n costio tua £15 biliwn.

Ond mae mudiadau'n gwrthwynebu ar sail cost ac am resymau amgylcheddol.

Mae rhai mudiadau fel elusen gwarchod adar yr RSPB am weld cynlluniau llai.

Fe fyddai'r morglawdd yn ffrwyno pŵer y llanw drwy ddefnyddio argae hydro-electroneg.

Eisoes mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y byddai'r datblygiad yn fodd o ddiogelu cyflenwadau ynni.

Mae rhai grwpiau amgylcheddol wedi rhybuddio am "ddinistr ecolegol" o ganlyniad i'r morglawdd.

English version

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7850609.stm